Yn dilyn penderfyniad Hawi i ymddeol o'i swydd wirfoddol a llwyddiannus tros ben yn hyfforddi ar Nos Fercher, hoffwn ddatgan ein diolchgarwch iddo am bron i ddeng mlynedd o waith arbennig o dda.Nid yw geiriau yn ddigonol rwsyt i gyflwyno fy ngwerthfawrodiad a'm parch, felly ceisiaf egluro ein teimladau ni oll ar ffurf barddoniaeth.
Colled fawr,colli Hawi, - ein athro
Cadarn,cawr mawr "Seki":
Cryf ei fraich a'i feddwl,
Dewin mewn "Karategi".
Arwr mawr ein "Dojo" ni, - cyfaill clen
A'n hyfforddwr, "Hawi":
Ei ddawn dysgu lwyddodd,
I godi safon "Seki".
Diolch mawr i ti "Hawi", - dy amser
Yn hael roddaist i ni:
Yma beunydd "Sensei",
Bydd croeso cynnes Seki.
Moley 9/1/08
A tribute to Hawi (Howard Fraser-Jones) who has to take a short break from training/instructing due to ill health.
The format is a series of poems called "Englynion" (Very much like a haiku only a bit more complex)